Pwerau

Fel y cynghorau bro a thref eraill yng Nghymru, y mae gan Gyngor Tref Aberaeron pwerau arbennig caiff eu rhestru isod yn nhrefn yr wyddor.

  • Rhandiroedd - darparu a chynnal a chadw rhandiroedd ar ddibenion eu hamaethu.
  • Celfyddydau - datblygu a gwella gwybodaeth am y celfyddydau a’r crefftau sy’n gwasanaethu’r celfyddydau.
  • Baddonau - darparu baddonau a golchdai (gan gynnwys golchfeydd).
  • Claddfeydd - darparu a chynnal a chadw claddfeydd, mynwentydd, amlosgfeydd, marwdai ac ystafelloedd post-mortem.
  • Clociau - darparu a chynnal a chadw clociau cyhoeddus. 
  • Tir Comin - pwer i ddiogelu unrhyw dir comin wedi’i gofrestru’n derfynol nad oedd ganddo unrhyw berchennog cofrestredig.
  • Atal Troseddu - gosod offer a sefydlu cynlluniau i ddarganfod troseddau neu i atal troseddu (ee camerâu CCTV; Cynlluniau Gwarchod y Gymdogaeth); rhoi grantiau i awdurdod yr heddlu at y dibenion hyn.
  • Adloniant - darparu unrhyw fath o adloniant cyhoeddus ac unrhyw adeilad at ddibenion darparu adloniant (mae hyn yn cynnwys cynnal bandiau neu gerddorfeydd a darparu ar gyfer dawnsio).
  • Neuaddau Darparu adeiladau ar gyfer cyfarfodydd a digwyddiadau cyhoeddus, ar gyfer chwaraeon neu ymarfer corf cyhoeddus dan do, neu i’w defnyddio gan glybiau a chymdeithasau sydd ag amcanion adloniadol, cymdeithasol neu athletaidd.
  • Achosion Cyfreithiol - pwer i ddwyn unrhyw achosion cyfreithiol a’u hamddiffyn er budd y trigolion. Pwer i gymryd rhan mewn unrhyw ymchwiliad lleol cyhoeddus.
  • Goleuadau - darparu a chynnal a chadw unrhyw oleuadau troedffordd sy’n goleuo ffyrdd neu balmentydd ar yr amod nad yw’r colofnau uwchlaw uchderau a nodwyd.
  • Ysbwriel - darparu biniau ysbwriel mewn strydoedd a chefnogi ymgyrchoedd gwrth-ysbwriel.
  • Mannau Agored - darparu a chynnal a chadw mannau agored cyhoeddus, parciau difyrrwch a rhodfeydd cyhoeddus.
  • Parcio - darparu a rheoli meysydd parcio ceir a beiciau.
  • Parciau - darparu a chynnal a chadw parciau cyhoeddus a chyfleusterau priodol.
  • Cynllunio - yr hawl i gael eu hysbysu o unrhyw gais cynllunio sy’n effeithio ar ardal y cyngor cymuned a thref ac i wneud sylwadau y mae’n rhaid i’r awdurdod cynllunio eu cymryd i ystyriaeth.
  • Meysydd Chwarae - darparu a chynnal a chadw tir ar gyfer unrhyw fath o weithgarwch hamdden awyr agored, gan gynnwys pyllau cychod.
  • Llynnoedd - pwer i ddelio â llynnoedd, pyllau neu fannau eraill sy’n gynnwys budreddi neu sylwedd sy’n niweidiol i’r iechyd.
  • Post a Ffôn - pwer i warantu’r awdurdodau post neu ffôn rhag colled ar unrhyw gyfleuster.
  • Toiledau - darparu a chynnal a chadw toiledau cyhoeddus cyhoeddus.
  • Hawliau Tramwy - cynnal a chadw llwybrau cyhoeddus a llwybrau ceffylau.
  • Lleiniau Ymyl - pwer i blannu a chynnal a chadw lleiniau ymyl ffordd.
  • Seddau - darparu a chynnal a chadw seddau cyhoeddus ar y briffordd.
  • Cysgodfeydd - darparu a chynnal a chadw cysgodfeydd i’w defnyddio gan y cyhoedd ac yn arbennig ar gyfer teithwyr bysiau.
  • Arwyddion - pwer i godi arwyddion sy’n rhybuddio’r cyhoedd o beryglon neu sy’n cyhoeddi enw lle, neu sy’n nodi arhosfan bysiau.
  • Nofio - darparu pyllau nofio dan do neu awyr agored.
  • Twristiaeth- darparu cyfleusterau ar gyfer cynadleddau a hybu twristiaeth at ddibenion hamdden neu fusnes.
  • Tawelu Traffig - cyfrannu tuag at gost gwaith tawelu traffig a ddarperir gan awdurdodau priffyrdd. 
  • Trafnidiaeth - sefydlu cynlluniau rhannu ceir a theithio rhatach mewn tacsis; rhoi grantiau ar gyfer gwasanaethau bysiau cymunedol a gwasanaethau bysiau i’r henoed neu’r anabl; ymchwilio i ddarpariaeth ac anghenion trafnidiaeth gyhoeddus, ffyrdd a thraffig; darparu gwybodaeth am wasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus.
  • Maes y Pentref - pwerau i gynnal a chadw maes y pentref neu’r dref.