Gwasanaethau'r Cyngor
Y mae’r gwasanaethau a gynigir gan y Cyngor yn cynnwys:
- darparu meysydd hamddena a mannau chwarae i blant ym Mharc-y-Fro a'r Cae Sgwar
- glanhau strydoedd gan y gweithredydd amgylcheddol
- cynnal a chadw mannau mwyniant gwyrdd
- darparu coedlannau Banc Bach ac Allt-y-graig
- cynnal a chadw rhai llwybrau cyhoeddus
- darparu arddangosfeydd o flodau
- darparu goleuadau addurniado; yr harbwr
- darparu Coeden Nadolig yn y dre a goleuadau yn y Cae Sgwar ar adeg y Nadolig. Y Cyngor sydd hefyd yn trefnu'r digwyddiad Nadolig Cymunedol.
Y mae’r Cyngor hefyd yn gwneud cyfraniadau ariannol blynyddol i:-
- Gyngor Sir Ceredigion ar gyfer cadw’r toiledau yn Nhraeth y De ar agor yn ystod tymor yr haf
- ac i Bwll Nofio Aberaeron a'r Cylch.
Mae'r gwasanaethau eraill a ddarperir yn y dref yn cynnwys
Llyfrgell - a leolir yn Neuadd Cyngor Ceredigion, Penmorfa
Pwll nofio - ewch i
www.aberaeronswimmingpool.co.uk