Cyfarfodydd, Cofnodion ac Agendau
Y mae'r Cyngor yn cwrdd ar yr ail nos Fawrth o bob mis (heblaw Mis Awst) am 7.00pm yn Ystafell Gynadledda Neuadd Goffa Aberaeron, Ffordd y De, Aberaeron.
Y mae'r Cyfarfodydd yn agored i'r cyhoedd.
Gellir
hefyd gael mynediad i bob Cyfarfod trwy MicrosoftTeams. Am ragor o fanylion, cysylltwch gyda'r Clerc.
Dylech nodi fod y cofnodion mewn ffurf drafft nes iddynt gael eu cymeradwyo fel rhai cywir yng nghyfarfod nesaf y Cyngor.
Cyfarfod Arbenning o'r Cyngor 29ain Mehefin 2026
Cynhelir Cyfarfod Arbennig o'r Cyngor am 5:00pm ar nos Lun 29ain Mehefin 2026 er mwyn ystyried cymeradwyo Cyfrifon Blynyddol 2025-26.
Gellir hefyd gael mynediad i'r Cyfarfod drwy Microsoft Teams. Am ragor o fanylion cysylltwch gyda'r Clerc.
Cyfarfod y Cyngor ym mis Gorffennaf 2026
Cynhelir Cyfarfod nesaf misol Cyngor Tref Aberaeron yn Ystafell Gynadledda Neuadd Goffa Aberaeron am 7:00pm ar nos Fawrth 14eg o Orffennaf 2026. Gellir hefyd gael mynediad i'r Cyfarfod drwy MicrosoftTeams. Am ragor o fanylion, cysylltwch gyda'r Clerc.
Hen Gofnodion
Ceir hyd i hen gofnodion y Cyngor am y cyfnod Chwefror 1974 hyd at Ebrill 2022 yn Archifdy Ceredigion, Neuadd y Dref, Aberstwyth SY23 2EB.
Tel: 01970 633698
ebost: archives@ceredigion.gov.uk
gwefan: archifdy-ceredigion.org.uk