Ffurfiwyd Cyngor Tref Aberaeron yn ystod ad-drefnu llywodraeth leol ym 1974 ac y mae yn un o’r 735 cyngor tref a chymuned yng Nghymru. Y mae’r Cyngor Tref yn cynrychioli’r lefel mwyaf lleol o weinyddu lleol yn yr ardal hon.
Y mae’r Cyngor yn cynnwys 12 Cynghorydd sy’n cynrychioli cymuned Aberaeron. Fe etholir Maer a Dirprwy Faer bob blwyddyn yn y Cyfarfod Blynyddol ym mis Mai.
Y mae gan y Maer dwy rôl, sef cadeirio cyfarfodydd y Cyngor Tref ac i ymgymryd â dyletswyddau sifig a gweithredu fel llysgennad ar ran y dref.
Fe’u cynorthwyir gan Glerc Cyngor y Dref, sef Mr Denfer Morgan.