Ffurfiwyd Cyngor Tref Aberaeron yn ystod ad-drefnu llywodraeth leol ym 1974 ac y mae yn un o’r 735 cyngor tref a chymuned yng Nghymru. Y mae’r Cyngor Tref yn cynrychioli’r lefel mwyaf lleol o weinyddu lleol yn yr ardal hon.
Y mae’r Cyngor yn cynnwys 12 Cynghorydd sy’n cynrychioli cymuned Aberaeron. Fe etholir Maer a Dirprwy Faer y Dref bob blwyddyn yn y Cyfarfod Blynyddol ym mis Mai.
Y mae gan Maer y Dref dwy rôl, sef cadeirio cyfarfodydd y Cyngor Tref ac i ymgymryd â dyletswyddau sifig a gweithredu fel llysgennad ar ran y dref.
Fe’u cynorthwyir gan Glerc Cyngor y Dref, sef Mr Denfer Morgan.
Ardystio a chymeradwyo’r Cyfrifon Blynyddol ar gyfer 2024-25
Mae rheoliad 15(1) o Reoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Cymru) 2014 (fel y'u diwygiwyd) yn ei gwneud yn ofynnol i Swyddog Ariannol Cyfrifol Cyngor Tref Aberaeron lofnodi a dyddio'r datganiad cyfrifon, ac ardystio ei fod yn cyflwyno'n deg sefyllfa ariannol Cyngor Tref Aberaeron ar ddiwedd y flwyddyn ac incwm a gwariant y Cyngor ar gyfer y flwyddyn. Roedd y Rheoliadau yn mynnu bod hyn yn cael ei gwblhau erbyn 30 Mehefin 2025.
Oherwydd oedi gweinyddol, nid yw'r Swyddog Ariannol Cyfrifol wedi llofnodi ac ardystio'r cyfrifon ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben 31 Mawrth 2025. Bydd y datganiad cyfrifon yn cael ei baratoi a bydd y Swyddog Ariannol Cyfrifol yn llofnodi ac yn ardystio'r datganiad cyfrifon erbyn 8fed Gorffennaf 2025.